Jump to content

MWY O LEISIAU, MWY O BŴER

Ydych chi erioed wedi gweld neu glywed rhywbeth cwbl annerbyniol yn y dafarn neu mewn clwb nos? Wedi clywed ffrind yn dweud rhywbeth amheus heb fod yn siŵr sut i ddweud rhywbeth?

Mae'n #DiogelIDweud rhywbeth er mwyn helpu i atal aflonyddu rhywiol. Gall eich llais rymuso eraill i ddweud rhywbeth hefyd. Gyda'n gilydd, gallwn roi diwedd ar aflonyddu rhywiol a'r agweddau sy'n ei achosi.


Responses cym

SYLWI AR AFLONYDDU RHYWIOL

Mae aflonyddu rhywiol yn ymddygiad digroeso o natur rywiol sy'n gallu gwneud i rywun deimlo'n ofnus, wedi'i ddiraddio neu wedi'i fychanu. Gall fod ar ffurfiau gwahanol ond mae bob amser yn annerbyniol.

Geiriol

Dweud jôcs neu sylwadau rhywiol naill ai'n uniongyrchol wrth rywun neu amdano, gyda'r bwriad o ddweud neu wneud rhywbeth iddo.

Corfforol

Cyffwrdd â rhywun neu gydio ynddo, gan gynnwys brwsio yn ei erbyn yn fwriadol.

Gweledol

Anfon negeseuon, lluniau neu fideos at rywun, syllu ar rywun nes iddo deimlo’n anghyfforddus.

MAE'N BWYSIG CODI
EICH LLAIS

Gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth, boed hynny drwy ystyried ein hagweddau a'n hymddygiad ein hunain, neu ddweud rhywbeth os byddwn yn sylwi ar ffrind yn ymddwyn yn amhriodol.

Mae eich llais yn bwysig – gall helpu i rymuso eraill

Os bydd eich ffrind yn mynd yn rhy bell, mae bob amser yn werth codi'r peth.Os na fyddwch yn teimlo y gallwch ei herio ar y pryd, gall fod yr un mor bwysig cael sgwrs un i un yn nes ymlaen.

Os na fyddwch yn teimlo y gallwch ddweud rhywbeth yn uniongyrchol, peidiwch â chwerthin ar sylwadau niweidiol. Ceisiwch gynnig safbwynt arall sy'n dangos nad yw pawb yn cytuno.

Gyda’n gilydd, gallwn helpu i atal aflonyddu rhywiol

Os byddwch yn anwybyddu aflonyddu, pa fath o neges y mae hyn yn ei chyfleu i'r unigolyn sy'n aflonyddu, ei ddioddefwr a'r rheini sydd o'ch cwmpas? Mae'n debygol nad chi yw'r unig un sy'n meddwl bod yr ymddygiad yn amhriodol, felly gallwch rymuso eraill i godi eu llais hefyd drwy ddweud rhywbeth.

Mae angen i bob un ohonom feddwl am ein geiriau, ein syniadau a'n gweithredoedd ni ein hunain.Mae'r effaith ar bobl eraill yn bwysicach na'ch bwriadau. Os bydd rhywun yn teimlo'n annifyr o ganlyniad i'r pethau rydych yn eu dweud neu'n eu gwneud, eich cyfrifoldeb chi yw rhoi'r gorau iddi, meddwl a newid, hyd yn oed os nad oeddech yn bwriadu achosi niwed.

Mae'n bwysig codi llais yn erbyn aflonyddu rhywiol

Po fwyaf y byddwch yn defnyddio eich llais i siarad yn erbyn aflonyddu rhywiol, yr hawsaf y bydd i chi wneud hynny a byddwch hefyd yn grymuso eraill i wneud yr un peth.

Dechreuwch yn fach. Gall newid trywydd y sgwrs fod yn ddigon. Cofiwch helpu mewn ffyrdd sy'n ddiogel i chi a phawb arall bob amser.

EI DDWEUD YN DDIOGEL

Bydd gan bob un ohonom lefelau gwahanol o hyder a chysur wrth herio achosion o aflonyddu, ac mae'n bwysig ein bod ni ond yn helpu mewn ffyrdd sy'n ddiogel i ni ein hunain ac i bawb dan sylw. Mae gan bawb rôl i'w chwarae.

Pryd i ymyrryd

Os byddwch yn sylwi ar eich ffrind yn dweud rhywbeth sy'n swnio'n amheus, mae'n iawn i chi ymyrryd.

COFIWCH: Dylech osgoi geiriau neu weithredoedd a allai wneud y sefyllfa'n fwy peryglus i chi neu'r unigolyn sy'n cael ei dargedu. Os byddwch yn gweld bod rhywun mewn perygl uniongyrchol o drais corfforol neu rywiol, ffoniwch 999.

Addysgu a hysbysu

Os byddwch yn gweld eich ffrindiau'n siarad yn amhriodol am rywun, cynigiwch safbwynt arall. Rhowch gynnig ar y canlynol: nodi'r broblem, yr effaith y mae'n ei chael, a'r hyn y gallai ei newid yn eich barn chi. Enghraifft: Stopia, does dim diddordeb ganddo. Rwyt ti'n gwneud iddo deimlo'n anghyfforddus. Rho'r gorau iddi am y tro, mae angen i ti barchu ei ddewis.

Newid trywydd y sgwrs

Mewn rhai sefyllfaoedd, gall peidio â dweud rhywbeth fod yr un mor rymus â dweud rhywbeth. Os bydd eich ffrind yn gwneud jôc rywiol, peidiwch â chwerthin. Os bydd yn dechrau siarad yn amhriodol am rywbeth, newidiwch y sgwrs a dywedwch wrtho nad yw'r hyn y mae wedi'i ddweud yn iawn. Enghraifft: Does gen i ddim diddordeb yn hynny. Welest ti... (newidiwch drywydd y sgwrs i siarad am rywbeth arall)

Ei nodi'n ddiogel

Os byddwch yn herio eich ffrind yn uniongyrchol o flaen y person y mae'n yn ei aflonyddu, cofiwch ddefnyddio llais tawel ac iaith y corff niwtral. Wrth siarad, dylech gadw pethau'n gryno ac yn glir. Enghreifftiau: “Dyw hynny ddim yn iawn.” “Dyna ddigon.” “Dyw hynny ddim yn ddoniol.” Cofiwch, nid dadl yw hon, a bydd ymddwyn mewn ffordd ymosodol yn gwneud y sefyllfa'n fwy peryglus. Gadewch i'r person sy'n cael ei aflonyddu arwain y camau nesaf, a pharchwch ei benderfyniadau.

GWASANAETHAU CYMORTH

CYMRYD RHAN

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio eich llais yn erbyn aflonyddu rhywiol, neu os ydych yn fusnes neu'n sefydliad sy'n awyddus i gael deunyddiau marchnata, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Drwy glicio ar y botwm rydych yn cadarnhau eich bod yn cytuno â'n Telerau ac Amodau.

Get involved cym

GALL EICH LLAIS RYMUSO POBL ERAILL

Dilynwch ni a chefnogwch yr ymgyrch

Gyda chefnogaeth gan

VPU logo white RGB
Gno logo vivid tangelo
Welsh womens aid logo

Rydym yn defnyddio cwcis i alluogi nodweddion a darparu data am y defnydd o'r wefan. Ceir manylion yn ein Telerau ac Amodau. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon rydych yn derbyn y defnydd hwn o gwcis.